
Cyfarwydd yw'r hen enw am storïwr, un sy'n adrodd storïau.
Yn y llyfr hwn cewch gipolwg ar ei stôr o storïau gwych.
Dewch i gwrdd â môr-forynion swnllyd Bae Ceredigion, gwledydd cudd dan y môr, hen goeden lle mae drws i'r byd arall, a'r llyffant doeth holl-wybodus sy'n byw yng Nghors Fochno.
Neu beth am y ferch glyfar drodd yn alarch, gyr o wartheg swyn sy'n byw dan Lyn Barfog, a'r eliffant a fu farw - efallai - yn Nhregaron?
Nous publions uniquement les avis qui respectent les conditions requises. Consultez nos conditions pour les avis.